Swyddi

Mae Avanti yn gwmni cynhyrchu bywiog a chyffrous sy’n rhoi blaenoriaeth i’w gwerthoedd craidd: creadigrwydd, cydweithio a safon. O ganlyniad rydym ni’n gyson yn chwilio am dalent creadigol newydd i ymuno â thîm sydd yn tyfu.

Os oes gennych chi’r awydd ymuno ag Avanti llenwch y ffurflen isod ac atodwch gopi cryno o’ch CV a llythyr cais byr.

Graddedigion

Mae Avanti yn chwilio am Raddedigion sydd yn frwdfrydig ac yn gallu gweithio’n annibynnol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu clir a hyderus,  ac yn gallu rheoli a dangos arweiniad ar brosiectau oddi mewn i’r cwmni. Os oeddech chi yn Olygydd eich Cylchgrawn Myfyrwyr neu yn Gyfarwyddwr yn y Gymdeithas Ddrama mae gennym ddiddordeb i glywed gennych ynglŷn â sut y byddech yn perchnogi prosiectau arbennig oddi mewn i Avanti.


ymholiad am swydd

 
 
 
     
 

*Llenwch pob maes os gwelwch yn dda